Ynglŷn â Ni>Yr Uned Gymraeg>Safonau’r Gymraeg

Safonau’r Gymraeg

Yn weithredol o 1 Ebrill 2018, mae Safonau’r Gymraeg yn disodli Cynllun Iaith y Brifysgol.

Sefydlodd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 fframwaith cyfreithiol i osod dyletswyddau ar sefydliadau cyhoeddus i gydymffurfio ag un neu fwy o Safonau ymddygiad mewn perthynas â’r Gymraeg, a wnaethpwyd yn un o ieithoedd swyddogol Cymru. Mae hyn yn golygu na ddylai’r Gymraeg gael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Mae’r Safonau’n egluro sut mae disgwyl i’r Brifysgol ddefnyddio’r Gymraeg ar draws ystod eang o weithgareddau yng Nghymru. Eu nod yw:

  • ei gwneud yn glir i’r Brifysgol beth yw ei dyletswyddau mewn perthynas â’r Gymraeg
  • ei gwneud yn gliriach i fyfyrwyr, staff a’r cyhoedd sy’n siarad Cymraeg pa wasanaethau y gallant ddisgwyl eu derbyn yn Gymraeg gan y Brifysgol
  • gwneud gwasanaethau Cymraeg yn fwy cyson a gwella eu hansawdd


Roedd yn rhaid i’r Brifysgol fodloni mwyafrif y Safonau erbyn 1af Ebrill 2018, ond roedd ganddi tan 1af Hydref 2018 i fodloni rhai Safonau ychwanegol a than 1af o Hydref 2019 i fodloni’r Safonau sy’n ymwneud â gwefannau a mewnrwydi dwyieithog.

Mae’n bwysig nodi bod y Safonau hyn yn cyfeirio at weithgareddau’r Brifysgol yng Nghymru yn unig.

Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i gymryd agwedd ragweithiol tuag at gyrraedd y Safonau a chynnig gwasanaethau o ansawdd uchel yn Gymraeg i fyfyrwyr, staff a’r cyhoedd.  Bydd cyflawni’r ymrwymiad hwn yn cynnig llawer o fuddion i’r Brifysgol, megis:

  • gwell gwasanaethau i fyfyrwyr sy’n siarad Cymraeg a fydd yn gwella recriwtio a chadw staff
  • gwell perthnasoedd â chymunedau a rhanddeiliaid Cymraeg
  • cysoni â pholisïau a strategaethau Llywodraeth Cymru
  • rhesymoli a safoni dogfennaeth a fydd yn arwain at well gwasanaethau i’r holl fyfyrwyr, staff a’r cyhoedd
  • cefnogi amcanion cynllun strategol y Brifysgol i gynyddu nifer y myfyrwyr sy’n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg


Isod mae cynllun gweithredu a grëwyd gan Yr Uned Gymraeg fel arweiniad i Ysgolion/Unedau ar y ffordd orau i gyrraedd y Safonau. Edrychwch ar y tabl i sicrhau bod y camau canlynol yn cael eu cwblhau gan eich Ysgol/Uned chi.


Amcan Cam(au) Gweithredu
Llofnodion electronig dwyieithog.Sicrhau bod gan y staff i gyd fersiwn dwyieithog o’u llofnodion electronig.
Pob gohebiaeth allanol a gychwynnir gan y Brifysgol i gael ei chynhyrchu yn ddwyieithog (os nad yw dewis iaith y derbynnydd yn hysbys).Sicrhau y bydd yr holl ohebiaeth allanol a gychwynnir gan y Brifysgol yn cael ei chynhyrchu yn ddwyieithog ac yn cynnwys y datganiad canlynol:

Mae Met Caerdydd yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg a Saesneg a byddwn yn sicrhau ein bod yn cyfathrebu â chi yn eich dewis iaith boed yn Gymraeg, yn Saesneg neu’n ddwyieithog dim ond i chi roi gwybod i ni pa un sydd well gennych. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn creu unrhyw oedi.

Cardiff Met welcomes correspondence in English and Welsh and we will ensure that we communicate with you in the language of your choice, whether that’s English, Welsh or bilingual as long as you let us know which you prefer. Corresponding in Welsh will not lead to any delay.
Ffurflenni dwyieithog at ddefnydd myfyrwyr a’r cyhoedd.Ensure that all University forms produced for staff and the public are produced bilingually (excluding the forms highlighted as standards specific to the University’s HR department).
Y staff i gyd i dderbyn hyfforddiant ar sut i ateb y ffôn yn ddwyieithog.Sicrhau bod Unedau/Ysgolion yn cysylltu â’r Uned Gymraeg i drefnu hyfforddiant.
Rhaid i’r holl ddeunyddiau cyhoeddusrwydd neu hysbysebu gael eu cynhyrchu’n ddwyieithog.Sicrhau bod yr holl ddeunyddiau cyhoeddusrwydd neu hysbysebu (gan gynnwys pamffledi, taflenni, unrhyw ymgyrchoedd marchnata, arddangos a hysbysebu, posteri a datganiadau i’r wasg) yn cael eu cynhyrchu’n ddwyieithog.
Dylai unrhyw ddeunyddiau sy’n cael eu harddangos yn gyhoeddus gael eu cynhyrchu’n ddwyieithog.Sicrhau bod yr holl ddeunyddiau y mae’r Brifysgol yn eu harddangos yn gyhoeddus (gan gynnwys baneri, posteri, nwyddau, arwyddion a hysbysiadau) yn cael eu cynhyrchu’n ddwyieithog.
Rhaid i unrhyw ddogfennau at ddefnydd y cyhoedd neu at ddefnydd myfyrwyr gael eu cynhyrchu yn ddwyieithog.Sicrhau bod unrhyw ddogfennau at ddefnydd y cyhoedd neu at ddefnydd myfyrwyr (gan gynnwys cylchlythyrau, tystysgrifau, trwyddedau, gweithdrefnau, rheolau a rheoliadau) yn cael eu cynhyrchu’n ddwyieithog.
Gwasanaethau ar-lein.Sicrhau bod gan bob tudalen we newydd a gynhyrchir neu a ddiwygiwyd yn Saesneg, dudalennau Cymraeg cyfatebol.
Cyfryngau cymdeithasol.Sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg mewn perthynas â’r holl gyfrifon corfforaethol ac adrannol (Twitter a Facebook).
Arwyddion dwyieithog.Sicrhau bod yr holl arwyddion/hysbysiadau newydd neu’r rhai sy’n cael eu hadnewyddu (gan gynnwys rhai dros dro) yn cael eu harddangos yn Gymraeg.
Codi ymwybyddiaeth am safonau’r Gymraeg.Sicrhau bod staff ym mhob Ysgol/Uned yn ymwybodol o ofynion Safonau’r Gymraeg.
Cadw dogfennaeth Gymraeg.Sicrhau nad yw’r holl fersiynau Cymraeg o unrhyw ddogfennaeth yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r fersiynau Saesneg drwy:

  • sicrhau eu bod ar gael yn rhwydd i staff, myfyrwyr a’r cyhoedd.
  • sicrhau bod y fersiynau Cymraeg yn cael eu cynnal, eu diwygio a’u diweddaru ochr yn ochr â’r fersiynau Saesneg.
Monitro’r defnydd o ddogfennaeth/gwasanaeth.Sicrhau bod cofnod yn cael ei gadw o bawb sy’n gofyn am ddogfennaeth neu wasanaethau yn y Gymraeg.



Hysbysiad Cydymffurfio

Isod gweler gopi o hysbysiad cydymffurfio terfynol Met Caerdydd yn ogystal â chanllaw atodol, sy’n rhestru’r Safonau y mae’n rhaid i’r Brifysgol gydymffurfio â nhw, a’r dyddiad gosod ar gyfer cydymffurfio:


Adroddiad Blynyddol

Rhaid i’r Brifysgol hefyd gynhyrchu adroddiad blynyddol mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol, yn manylu ar y ffyrdd y mae’r Brifysgol wedi cydymffurfio â’r Safonau y mae’n ddarostyngedig iddynt:


Adroddiad Cyfredol


Adroddiadau Blaenorol